Canolfan cynadleddau a chyfarfodydd gwobruol yng Ngogledd Cymru


Ysgrifennu Ceisiadau Safon Uwch - canllawiau ar sut i greu tendrau buddugol

Ysgrifennu Ceisiadau Safon Uwch - canllawiau ar sut i greu tendrau buddugol

Dyddiad: Dydd Mercher, 30/10/2019

Amser: 09:30 - 16:30

Lleoliad: Glasdir, Llanrwst, LL26 0DF

Ymunwch ag arbenigwr ysgrifennu tendrau Jamie Edwards o gwmni Tender Write am sesiwn hyfforddi llawn ffeithiau ar sut i symud eich sgiliau ysgrifennu tendrau i’r lefel nesaf.

Wedi ei ariannu gan Busnes Cymru, bydd y cwrs newydd yma yn rhoi mewnwelediad ffres a chanllawiau ymarferol clir ar sut i :

  • Wneud yn siwr fod eich cwmni yn “barod i dendro” pan fydd cyfleoedd yn codi
  • Sut i fod yn “Rheolwr Ceisiadau” o fewn eich busnes
  • Deall sut i greu cynnwys bidiau yn eich ymatebion
  • Rheoli’r broses adborth i greu bidiau gwell
  • Deall sut i greu ceisiai am gyfleoedd rhyngwadol yn ogystal â rhai yn y DU
  • Ymarferion ar ffurf gweithdy ymarferol ar werthuso, a datblygu ceisiadau buddugol

Mae Jamie yn ysgrifennwr ceisiadau tendro proffesiynol gyda hanes o ysgrifennu ceisiadau llwyddiannus i ystod o gwmnïau ac amrywiaeth o ddiwydiannau o adeiladwaith, peirianneg sifil, rheoli cyfleusterau , gofal iechyd, a recriwtio.

Nid ydy’r cwrs yma yn ymdrin â sgiliau sylfaenol tendro. Yn hytrach, mae’r cwrs yn fwy addas i’r rhai sydd wedi tendro o’r blaen, ac yn rhwystredig gyda diffyg llwyddiant, neu sydd ddim yn deall sut i ddatblygu cynnwys eu tendrau i gyrraedd safon uwch gyda gwell canlyniadau. Mae’n weithdy hamddenol ei ffurf gyda chymysgedd o gyflwyniadau, trafodaeth grŵp, ac ymarferion ymarferol ar y diwrnod. Os nad ydych yn siŵr ble rydych yn mynd yn anghywir, neu sut i wella – yna bydd y cwrs yma yn rhoi mewnwelediad clir ar sut i “godi eich gem” mewn proses hynod gystadleuol.

I archebu eich lle ar y cwrs yma cliciwch yma.

Categoriau: Training / Hyfforddiant

Rhai o'n Clientiaid

clients1

 

Cylchlythyr

I dderbyn eich cylchlythyr, cliciwch yma.

Cyswllt

Glasdir
Plas yn Dre
Llanrwst
Gogledd Cymru
LL26 0DF

Ffôn: 01492 640640
E-bost: info@glasdir.com.

Dod o hyd i ni

I weld cyfarwyddiadau a sut o ddod o hyd i ni a map cliciwch yma.