Canolfan cynadleddau a chyfarfodydd gwobruol yng Ngogledd Cymru


Cyflymu Cymru i Fusnesau – Gwerthwch Fwy Drwy Ddefnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol

Cyflymu Cymru i Fusnesau – Gwerthwch Fwy Drwy Ddefnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol

Dyddiad: Dydd Iau, 23/05/2019

Amser: 09:00 - 13:00

Lleoliad: Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst

Mae 90% o fusnesau yn codi ymwybyddiaeth brand gyda’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’n ffordd hawdd iawn i godi’ch proffil, denu cwsmeriaid newydd ac ennill busnes newydd. Fe wneith Cyflymu Cymru i Fusnesau ddangos i chi sut i fanteisio ar y cyfryngau cymdeithasol yn eu gweithdy a ariennir yn llawn.

Byddwch chi’n dysgu:

  • Sut i ysgrifennu postiadau mwy dengar
  • Sut i greu strategaeth cyfryngau cymdeithasol llwyddiannus i ennill busnes
  • Awgrymiadau i ddysgu pa ddulliau sy’n gweithio a pha rai nad ydynt yn gweithio
  • Llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gynnwys Facebook, Twitter, Instagram, Pinterest, a LinkedIn
  • Defnyddio byrddau cyfryngau cymdeithasol fel Hootsuite a Buffer

Diolch am alw heibio. A yw’ch busnes yn BBaCh yng Nghymru, sy’n masnachu ar hyn o bryd ac wedi cofrestru gyda Companies House neu CThEM? Os felly, darllenwch ymlaen neu sgroliwch i lawr i archebu lle ar ddigwyddiad yn eich ardal chi:

Beth fydd yn cael ei ddarparu?

  • Gweithdai busnes am ddim: dysgwch ffyrdd ymarferol o wneud y gorau o offer a thechnolegau ar-lein ar gyfer llwyddiannau cyflym a gwelliannau mawr.
  • Cymorth 1:1 wedi’i deilwra: cael sesiwn gyngor un-i-un gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol i drafod anghenion eich busnes a chael cynllun wedi’i deilwra.
  • Adolygiad gwefan: cael adolygiad o’ch gwefan am ddim i ddod o hyd i feysydd y gallech eu gwella i gynyddu eich amlygrwydd ar-lein ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid.

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn drwy glicio yma.

Neu cadwch le drwy ffonio 03332 408329.

Categoriau: Digwyddiadau Busnes / Business Events

Rhai o'n Clientiaid

clients1

 

Cylchlythyr

I dderbyn eich cylchlythyr, cliciwch yma.

Cyswllt

Glasdir
Plas yn Dre
Llanrwst
Gogledd Cymru
LL26 0DF

Ffôn: 01492 640640
E-bost: info@glasdir.com.

Dod o hyd i ni

I weld cyfarwyddiadau a sut o ddod o hyd i ni a map cliciwch yma.