Canolfan cynadleddau a chyfarfodydd gwobruol yng Ngogledd Cymru


Ysgrifennu Ceisiadau Safon Uwch - Canllawiau ar sut i greu tendrau buddugol

Advanced Bid Writing - A Winner's Guide to Producing Top Tenders

Dyddiad: Dydd Iau, 14/06/2018

Amser: 09:00 - 16:00

Lleoliad: Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst

Ymunwch ag arbenigwr ysgrifennu tendrau Jamie Edwards o gwmni Tender Write am sesiwn hyfforddi llawn ffeithiau ar sut i symud eich sgiliau ysgrifennu tendrau i’r lefel nesaf. A ydych chi’n tendro i’r sector breifat a chyhoeddus? Yna mae’r cwrs yma i chi.

Wedi ei ariannu gan Busnes Cymru, bydd y cwrs newydd yma yn rhoi mewnwelediad ffres a chanllawiau ymarferol clir ar sut i :

  • Wneud yn siwr for eich cwmni yn “barod i dendro” pan fydd cyfleoedd yn codi
  • Sut i fod yn “Rheolwr Ceisiadau” o fewn eich busnes
  • Deall sut i greu cynnwys bidiau yn eich ymatebion
  • Rheoli’r broses adborth i greu bidiau gwell
  • Ymarferion ar ffurf gweithdy ymarferol ar werthuso, a datblygu ceisiadau buddugol

Mae Jamie yn ysgrifennwr ceisiadau tendro proffesiynol gyda hanes o ysgrifennu ceisiadau llwyddiannus i ystod o gwmnïau ac amrywiaeth o ddiwydiannau o adeiladwaith, peirianneg sifil, rheoli cyfleusterau , gofal iechyd, a recriwtio.

Nid ydy’r cwrs yma yn ymdrin â sgiliau sylfaenol tendro. Yn hytrach, mae’r cwrs yn fwy addas i’r rhai sydd wedi tendro o’r blaen, ac yn rhwystredig gyda diffyg llwyddiant, neu sydd ddim yn deall sut i ddatblygu cynnwys eu tendrau i gyrraedd safon uwch gyda gwell canlyniadau. Mae’n weithdy hamddenol ei ffurf gyda chymysgedd o gyflwyniadau, trafodaeth grŵp, ac ymarferion ymarferol ar y diwrnod. Os nad ydych yn siŵr ble rydych yn mynd yn anghywir, neu sut i wella – yna bydd y cwrs yma yn rhoi mewnwelediad clir ar sut i “godi eich gem” mewn proses hynod gystadleuol.

I archebu eich lle am ddim, cliciwch yma.

Ni fydd Busnes Cymru yn gallu derbyn mwy na 1 cynrychiolydd o bob busnes yn y digwyddiad yma.

Mae blaenoriaeth ar gyfer lleoedd ar y digwyddiad hwn yn cael ei roi i fusnesau bach a chanolig eu maint yn y sector preifat sydd wedi eu lleoli yng Nghymru (SME – yn llai na 250 o weithwyr).

Categoriau: Training / Hyfforddiant

Rhai o'n Clientiaid

clients1

 

Cylchlythyr

I dderbyn eich cylchlythyr, cliciwch yma.

Cyswllt

Glasdir
Plas yn Dre
Llanrwst
Gogledd Cymru
LL26 0DF

Ffôn: 01492 640640
E-bost: info@glasdir.com.

Dod o hyd i ni

I weld cyfarwyddiadau a sut o ddod o hyd i ni a map cliciwch yma.